Y Prif Weinidog yn torri tir newydd ar gynllun sefydlogrwydd grid trydan Abertawe - y cyntaf o’i fath yng Nghymru
Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill ar brosiect ynni gwyrdd arloesol i’r gogledd o Abertawe, yn dilyn seremoni arloesol a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS
Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill ar brosiect ynni gwyrdd arloesol i’r gogledd o Abertawe, yn dilyn seremoni arloesol a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS.
Parc Grid Gwyrddach Abertawe yw’r cynllun sefydlogrwydd grid trydan cyntaf yng Nghymru gan Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, ac mae'n cyfateb i tua £70m o fuddsoddiad yn y broses o drawsnewid ynni yng Nghymru.
Daw’r digwyddiad, a gynhaliwyd gyda Llysgennad Norwy i’r Deyrnas Unedig, Ei Ardderchogrwydd Tore Hattrem yn bresennol, yn fuan ar ôl i’r Prif Weinidog nodi ei bwriad i gyflymu’r broses o ddefnyddio ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddileu rhwystrau i fuddsoddi.
Bydd y cynllun Parc Grid Gwyrddach yn defnyddio chwe sefydlogydd cylchdroi mawr i efelychu’r tyrbinau sy’n troelli mewn gorsaf bŵer draddodiadol. Bydd y dechnoleg arloesol yn gymorth i gadw’r goleuadau yng nghartrefi Cymru ymlaen, pan fydd diffygion neu amhariad ar y grid – heb fod angen troi y gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil traddodiadol ymlaen i gynnal amledd sefydlog o drydan o'r grid.
Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd y safle yn cyfrannu at gyflawni amcanion sero net a datgarboneiddio ynni Llywodraeth Cymru a'r DU, gan helpu i wneud tanwyddau ffosil yn rhywbeth o'r gorffennol a hybu diogelwch ynni'r genedl. Bydd y dechnoleg hefyd yn helpu i ddarparu cyflenwad ynni sefydlog, diogel a rhatach i gartrefi, busnesau a sector ddiwydiannol Cymru.
Derbyniodd Statkraft y cytundeb i ddarparu gwasanaethau sefydlog gan NESO - Gweithredwr Cenedlaethol y System Ynni - o dan gam tri ei Rhaglen Fraenaru Sefydlogrwydd, yn 2022. Dywedodd NESO y bydd y cytundebau yn sicrhau £14.9bn o arbedion rhwng 2025 a 2035. Cafodd y cais cynllunio, a gafodd gefnogaeth unfrydol gan Gyngor Abertawe, ei ddiwygio gan Statkraft i gynnwys dau gyfadferydd cydamserol, er mwyn i’r safle allu darparu sefydlogrwydd i’r grid yn fwy effeithiol.
Abertawe fydd y trydydd cynllun i ddarparu sefydlogrwydd trwy ddefnyddio sefydlogyddion cylchdroi, ar ôl Keith, ym Moray, a Lister Drive yn Lerpwl. Mae’r ddau safle yma eisoes yn weithredol ac yn arbed 216,000 tunnell o CO2e y flwyddyn.
Yn ystod ei hymweliad â’r safle yn Nhreforys, ar gyrion Abertawe, cyfarfu’r Prif Weinidog ag aelodau o dîm prosiect Statkraft, a chydweithwyr eraill sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Cafodd gyfle i ddarganfod mwy am y cynlluniau ar gyfer y Parc Grid Gwyrddach, a sut y bydd y dechnoleg hon yn gymorth i alluogi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol yng Nghymru, fel ffermydd gwynt a solar i weithredu ar grid trydan Prydain Fawr.
Dim ond un rhan o strategaeth ehangach Statkraft i wella seilwaith ynni’r DU yw’r cynllun hwn, gyda buddsoddiad o fwy na £4 biliwn yn yr arfaeth, a bron i 20 prosiect gyda chaniatâd cynllunio, a mwy o brosiectau ar y gweill gyda gwynt, solar, ynni dŵr a hydrogen gwyrdd. Mae’r amrywiaeth o ran technolegau adnewyddadwy yn golygu bod Statkraft yn cyfrannu at sefydlogrwydd y grid, ac yn sicrhau system ynni wydn, amlbwrpas sy'n gallu diwallu gofynion y dyfodol.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Gallai gofynion trydan Cymru dreblu erbyn 2050, felly mae’n bwysig bod seilwaith fel Parc Grid Gwyrddach Statkraft yn Abertawe ar waith i gefnogi’r grid a sicrhau y gall ymdopi â’r galw cynyddol yn y ffordd fwyaf effeithlon a chyfeillgar i’r amgylchedd. “Mae cynlluniau fel hyn yn bwysig i sicrhau ein bod yn barod i barhau i bontio at fwy o ynni adnewyddadwy, gan gyflawni un o fy mlaenoriaethau ar gyfer twf gwyrdd. Roeddwn hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni Alltraeth wedi ei greu, a fydd yn dod â’r arbenigedd sydd ei angen arnom ynghyd, a’n cynorthwyo i gyflawni ein targedau ynni adnewyddadwy.”
Dywedodd y Gweinidog Ynni, Michael Shanks AS: “Mae hon yn garreg filltir enfawr wrth i waith ddechrau ar y cynllun sefydlogrwydd grid pŵer glân yng Nghymru – enghraifft wych o’r modd y mae Prydain Fawr yn parhau i gefnogi technoleg ynni glân er mwyn datgloi buddsoddiadau a phweru ein cartrefi a’n busnesau, a sicrhau bod ein gwlad yn llawn ynni glân.
“Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rydym eisiau gweld mwy o brosiectau fel hyn yng Nghymru a ledled y DU – yn creu swyddi lleol medrus ac yn ein gyrru ymlaen tuag at ein hamcanion sero net.”
Dywedodd Richard Mardon, Pennaeth Datblygu Statkraft yn y DU: “Mae Parc Grid Gwyrddach Abertawe yn enghraifft amlwg o sut y gall Cymru fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer arloesi ynni gwyrdd, a darparu atebion lleol er budd cymunedau Cymru, tra’n atgyfnerthu diogelwch ynni ehangach y genedl. Bydd cynlluniau arloesol fel hyn yn cynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy i’r grid, gan ostwng biliau defnyddwyr a chwsmeriaid, a lleihau allyriadau carbon i bawb.”