
Statkraft yn lansio ymgynghoriad statudol ar gyfer Fferm Solar Alleston yn Sir Benfro
Mae'r cynlluniau'n dilyn astudiaethau amgylcheddol helaeth ac adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgysylltu cynnar a gynhaliwyd y llynedd
Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, yn lansio ei ymgynghoriad statudol ar gynigion manwl ar gyfer Fferm Solar Alleston, a leolir rhwng Penfro a Llandyfái, yn Sir Benfro. Mae'r cynlluniau'n dilyn astudiaethau amgylcheddol helaeth ac adborth a dderbyniwyd yn ystod ymgysylltu cynnar a gynhaliwyd y llynedd.
O ganlyniad i adborth, mae rhai newidiadau pwysig wedi’u gwneud i’r cynigion, gan gynnwys tynnu ardaloedd o baneli solar o gaeau ar hyd Heol Llandyfái Isaf ac o flaen y ffermdy rhestredig Gradd II, gan greu perllan i wella’r gosodiad treftadaeth a gwelliannau i ardaloedd bioamrywiaeth ledled y safle.
Mae Statkraft wedi ymrwymo i gydweithio'n agos â'r gymuned leol i ddod â gwerth hirdymor a chyflawni prosiect y gellir ei ystyried yn ased lleol. Fel rhan o gynnig Fferm Solar Alleston, bydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu, a rhagwelir y bydd yn darparu £480,000 yn ystod oes y prosiect o 40 mlynedd.
Dywedodd Gui Zandomeneghi, Prif Reolwr Prosiect Solar Statkraft: “Rydym wedi gwneud rhai newidiadau pwysig i'n cynlluniau, yn dilyn adborth o'r ymgysylltu cynnar y llynedd a chanlyniadau'r ymchwiliadau safle a'r arolygon. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i siarad â ni hyd yn hyn.
“Mae prosiectau fel Fferm Solar Alleston yn hanfodol i oresgyn diogelwch ynni a’r argyfwng hinsawdd, gan hwyluso’r newid o danwydd ffosil i ynni carbon isel a chefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trydan 100% yn adnewyddadwy erbyn 2035. Byddwn i'n annog pobl leol i ddod i un o’r digwyddiadau rydym yn eu cynnal a sgwrsio gyda fi a’r tîm.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y cynigion ar wefan y prosiect – www.alleston-solar.co.uk – a bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect yn nigwyddiadau'r ymgynghoriad:
- 13:00-18:00 ddydd Mawrth 22 Hydref 2024 yn Neuadd y Dref Penfro, Stryd Fawr (SA71 4JS).
- 12:00-16:30 ddydd Mercher 23 Hydref 2024 yn Neuadd Bentref Llandyfái (SA71 5PB).
Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw hanner nos, dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024.
Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, bydd y cynigion yn cael eu cwblhau, a bydd cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i'w archwilio cyn cael ei benderfynu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Contact
