
Prosiectau lleol yn Sir Gâr yn cael eu cefnogi gan gronfa gymunedol fferm wynt
Mae cronfa budd cymunedol Fferm Wynt Alltwalis Statkraft wedi cefnogi grwpiau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, ac ysgolion gyda £107,000 o gyllid cymunedol yn ystod 2023
Mae cronfa budd cymunedol Fferm Wynt Alltwalis Statkraft wedi cefnogi grwpiau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, ac ysgolion gyda £107,000 o gyllid cymunedol yn ystod 2023. Ers sefydlu’r gronfa yn 2010, mae dros £1.1 miliwn wedi’i ddosbarthu i 35 gwahanol achos lleol yn ardal Llanfihangel-ar-Arth yn Sir Gâr, ac mae’r cyllid ar gael ar gyfer holl oes y prosiect.
Daeth Fferm Wynt Alltwalis, sy’n cael ei gweithredu gan Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, yn weithredol yn 2009, ac mae’n pweru’r hyn sydd yn cyfateb i 16,500 o gartrefi gydag ynni glân, adnewyddadwy o ffynhonnell leol. Mae wedi’i lleoli ger Coedwig Brechfa, i’r gogledd o Gaerfyrddin, De Cymru.
Bwriad y gronfa yw cyfrannu tuag at weithgareddau sydd yn creu cymuned fywiog, gan gynnwys rhai sydd yn rhoi sylw i brosiectau amgylcheddol, addysgiadol ac yn gwella’r gymuned, gan gynnwys prosiectau awyr agored. Ymhlith y prosiectau a gefnogwyd yn 2023, mae clwb cinio misol yng Nghapel Tabernacl Pencader, gosod paneli solar yng Nghlwb CanĊµio Llandysul Paddlers, darparu cymorth tuag at gynnal Cylchoedd Meithrin yn Llanllwni a Phencader, a chyllido cyfarpar hyfforddi er mwyn dangos i bobl leol sut i ddefnyddio diffibrilwyr.
Mae’r gronfa’n cael ei rheoli’n annibynnol ar Statkraft, dan arweiniad trigolion lleol sydd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau. Mae sefydliadau a grwpiau sydd wedi’u lleoli o fewn ardal Llanfihangel-ar-Arth yn gymwys i wneud cais am grantiau gan y gronfa. Mae pedwar cyfnod ymgeisio y flwyddyn. Y dyddiadau cau yn ystod 2025 yw 4 Ionawr, 8 Mawrth, 7 Mehefin, 13 Medi.
Dylai ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwr y gronfa, Meinir Evans ar 01559 395 669 neu e-bostio meinir.evans@btinternet.com i gael rhagor o wybodaeth.
Dywed Dewi Thomas, Cadeirydd Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis: “Mae’r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gan ein cronfa yn ystod 2023 yn dangos y gwir wahaniaeth y gellir ei wneud drwy gefnogi mudiadau lleol. Mae rhai o aelodau ifancaf a rhai hynaf ein cymuned wedi elwa, n ogystal ag asedau fel Canolfan Gymunedol Alltwalis a Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, sydd wedi derbyn cymorth ar gyfer cynnal a chadw parhaus.
“Drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau, cyfleusterau a mudiadau lleol, gallwn wneud gwir wahaniaeth i fywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llanfihangel-ar-Arth. Ond ry’n ni wastad yn chwilio am brosiectau a mentrau newydd i’w cefnogi, felly byddwn i’n annog pobl i gysylltu os ydyn nhw eisiau trafod eu syniadau.”
Dywed Glyn Griffiths, Rheolwr Safle Statkraft yn Alltwalis: “Mae Alltwalis yn enghraifft amlwg o’r modd y gall ein ffermydd gwynt roi budd uniongyrchol i aelodau a’n cymuned leol, yn ogystal â darparu ynni glân, adnewyddadwy i gartrefi ledled Cymru. Ry’n ni’n falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymdogion ac o gefnogi cymaint o achosion a mentrau teilwng.”
Contact
