Statkraft yn cyrraedd carreg filltir o filiwn o bunnoedd ar gyfer cronfa gymunedol Fferm Wynt Alltwalis
Mae Statkraft, cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, wedi cyhoeddi bod y gronfa gymunedol sy’n gysylltiedig â’i Fferm Wynt yn Alltwalis bellach wedi dyfarnu dros £1 miliwn i glybiau, cymdeithasau, a sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth.
Lleolir Fferm Wynt Alltwalis, a ddaeth yn weithredol yn 2009, ac sy’n pweru tua 16,500 o gartrefi ag ynni adnewyddadwy glân wedi'i gynhyrchu gartref, ger Coedwig Brechfa, i’r gogledd o Sir Gaerfyrddin, de Cymru.
Mae’r gronfa ar gael drwy gydol oes 25 mlynedd y fferm wynt ar gyfer blaengareddau a fydd o fudd i’r gymuned leol, â swm blynyddol sy’n codi’n flynyddol yn unol ag unrhyw gynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.
Mae’r prosiectau sydd wedi cael cymorth grantiau yn 2022 yn cynnwys adnewyddu Ysgol Alltwalis yn gyfleuster cymunedol, ariannu offer ar gyfer y clwb cinio yn Festri Tabernacl Pencader, gosod byrddau picnic a bwrdd cyfathrebu yn y Pafiliwn ym Mhencader, a chymorth i’r Cylchoedd Meithrin yn Llanllwni a Phencader, sef y fenter a aeth â'r gronfa dros y llinell miliwn o bunnoedd.
Rheolir y gronfa yn annibynnol o Statkraft, a chaiff ei harwain gan drigolion lleol sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau. Mae ei nodau’n cynnwys ariannu gweithgareddau a phrosiectau sy’n creu cymuned fywiog, gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar brosiectau amgylcheddol, addysgol a chymunedol, â gweithgareddau awyr agored yn eu plith.
Mae sefydliadau yn ardal Llanfihangel-ar-Arth yn gymwys i ymgeisio am grantiau o’r gronfa, a bydd y dyddiadau cau ar gyfer y pedwar cyfnod ymgeisio yn ystod 2023 ar 31 Ionawr, 18 Ebrill, 27 Mehefin, a 3 Hydref. Dylai ymgeiswyr gysylltu â gweinyddwraig y gronfa, Meinir Evans, ar 01559 395 669 neu meinir.evans@btinternet.com i gael rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Glyn Griffiths, Rheolwr Safle Statkraft yn Alltwalis: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y gymuned leol yn dal i elwa o’r gronfa a sefydlwyd pan adeiladwyd safle Alltwalis dros ddegawd yn ôl. Yn ogystal â darparu ynni glân, gwyrdd, adnewyddadwy, mae'n bwysig fod Statkraft yn gymydog da, a bod y rhai sy'n byw ger ein safleoedd yn elwa'n uniongyrchol, ac felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi cymaint o achosion a mentrau teilwng yn yr ardal leol.”
Dywedodd Dewi Thomas, Cadeirydd Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Alltwalis: “Mae’r garreg filltir hon yn teimlo fel cyfle i bwyso a mesur ac edrych yn ôl ar yr ystod amrywiol o brosiectau a gefnogwyd ers sefydlu’r gronfa; maent yn cynnwys dosbarthu bwyd ffres yn ystod y pandemig, cynorthwyo gofalwyr ifanc i gael seibiant o’u dyletswyddau a helpu i ariannu bws mini newydd ar gyfer clwb canĊµio lleol. Mae’r arian hwn yn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sy’n byw ac sy'n gweithio yn ein cymuned leol.”